Bwthyn Gwyliau - Y Wern, Harlech

Mae’r Wern wedi cael ei hadnewyddu’n ddiweddar ac mae’n darparu lle ar gyfer 8 gwestai mewn 5 ystafell (2 sengl a 3 gyda dau wely, gyda basn ymolchi ym mhob un). CAG Coleg Harlech sy’n berchen ar ac yn rheoli’r eiddo hwn ac mae’n cynnig llety syml a di-ffwdan. Mae wedi cael ei raddio’n ddwy seren gan Croeso Cymru ac mae’n ddelfrydol ar gyfer teuluoedd sy’n chwilio am wyliau rhesymol eu pris.
Mae yma lolfa gysurus sy’n cynnwys teledu a chwaraeydd DVD.
I lawr y grisiau ceir ystafell wely gyda thoiled a basn ymolchi; i fyny’r grisiau ceir ystafell ymolchi gyda baddon/cawod a thoiled.
Mae’r Wern yn ardderchog ar gyfer teuluoedd. Wedi’i lleoli ym Mharc Cenedlaethol Eryri a chyda golygfeydd dros Fae Tremadog o rai o’r ystafelloedd gwely, dyma leoliad perffaith i unrhyw un sy’n dymuno mwynhau’r awyr agored.
Mae gan Harlech filltiroedd o draeth tywodlyd a chysgodol lle gellir ymdrochi’n ddiogel. Mae Clwb Golff Royal St David’s a Chastell Harlech gerllaw.
I Logi Y Wern
I logi Y Wern, sicrhewch ei bod ar gael yn gyntaf ac yna llwythwch ffurflen bwcio a dychwelwch hi gyda blaendal o £60 (yn daladwy i CAG(G) Coleg Harlech) i sicrhau’r eiddo. Rhaid talu’r gweddill 6 wythnos cyn cyrraedd.
Valmai Owen
Coleg Harlech
Harlech
Gwynedd
LL46 2PU
