Traeth Harlech 

harlech-beach

Mae traeth Harlech a’r ardal o dwyni y tu cefn iddo yn un o’r enghreifftiau gorau o system dwyni naturiol yng ngwledydd Prydain ac mae wedi cael ei ddynodi’n Warchodfa Natur Genedlaethol ac yn Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig. Mae’n lle gwych i blant.

Ceir arwyddion clir i’r traeth ar yr A496 ac mae’r fynedfa o dan y Castell wrth ymyl y groesfan reilffordd. Mae maes parcio talu ac arddangos yn y fan hyn a gallwch gerdded oddi yno i’r traeth ar hyd llwybr sy’n torri drwy’r maes golff a’r twyni.

Traethau eraill

Mae gan Eryri arfordir sy’n 200 milltir o hyd ac mae’r rhan fwyaf ohono wedi’i ddynodi’n Barc Cenedlaethol neu’n Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol.

Disgrifir y traethau lleol fel a ganlyn yn VisitSnowdonia; ewch i’w gwefan i gael rhagor o wybodaeth.

Mae traeth Y Friog/Fairbourne yng ngheg afon Mawddach, aber arall lle ceir golygfeydd gwych. Mae milltiroedd a milltiroedd o dwyni a thywod yma, a rhai ffyrdd anarferol o archwilio’r ardal. Ewch am daith ar Reilffordd y Friog, daliwch y fferi i Abermo, neu cerddwch ar draws y bont reilffordd ysblennydd sy’n rhychwantu’r aber.

Mae’r tywod yn ymestyn am filltiroedd i Bennar a Llandanwg – dau draeth anghysbell gyda thwyni helaeth – ac yna rownd y tro i Harlech. Os ydych chi’n chwilio am le i anturio, golygfeydd, a llond ysgyfaint o awyr hallt y môr, ewch am dro ar hyd y traeth anhygoel hwn sy’n lledu fel carped enfawr o dan dyrau Castell Harlech, a gadewch i’r plant grwydro’n rhydd a chwarae mig yn y twyni.

Mae traeth y Greigddu/Black Rock yn nodi lle mae Penrhyn Llŷn yn dechrau. Pam y Greigddu? Wel mae yna bentir creigiog gydag ogofâu a phyllau glan môr ym mhen gorllewinol traeth tywodlyd dwy filltir o hyd. Mae’r llecyn hwn yn boblogaidd gan farcudsyrffwyr a phobl gyda cheir-barcud. Mae’n gyfleus ar gyfer picnicau hefyd gan eich bod chi’n gallu parcio’ch car ar y traeth.

Y lle nesaf yw Cricieth, tref glan môr hyfryd o oes Fictoria sy’n parhau’n llewyrchus. Mae’r ddau draeth o dywod a cherigos, sydd wedi’u rhannu gan bentir â chastell ar ei ben, ar arfordir heulog sy’n wynebu’r de ac fe’u cynhesir gan ddyfroedd Llif y Gwlff – mae rhai pobl leol yn ymdrochi yma bob dydd yn ôl y sôn.

Self catering accommodation for groups and families in Harlech, Snowdonia

Share on facebook
Follow HarlechHolidays on Twitter

Weather Forecast