Telerau ac Amodau

Rydym yn awyddus i sicrhau eich bod chi’n mwynhau’ch gwyliau wrth aros yn Harlech. Byddwch cystal â chymryd ychydig o amser i ddarllen y wybodaeth isod i sicrhau eich bod chi’n deall y telerau busnes sydd ynghlwm wrth yr eiddo ac i osgoi unrhyw siom bosibl yn y dyfodol.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau o gwbl, neu unrhyw geisiadau arbennig, peidiwch â phetruso rhag cysylltu â ni i’w trafod. Gwnawn bopeth o fewn ein gallu i sicrhau eich bod chi’n mwynhau’ch arhosiad.

  1. Rhaid talu blaendal na ellir ei ad-dalu o £60 i ddiogelu’r llety. Ar ôl i ni dderbyn hwn, anfonir derbynneb/cadarnhad e-bost gennym o fewn 24 awr.
  2. Rhaid i ni dderbyn y tâl yn llawn 6 wythnos cyn y dyddiad cyrraedd.
  3. Rhaid talu blaendal difrod o £100 drwy siec ar wahân pan wnewch y taliad terfynol. Ni chaiff y siec hon ei newid oni bai bod difrod yn cael ei wneud i’r eiddo (gweler pwynt 17).
  4. Ni fyddwn yn gwneud ad-daliadau os na allwch ddod oni bai ein bod ni’n gallu llogi’r llety i rywun arall. Os llwyddwn i wneud hyn, bydd y swm llawn yn cael ei ad-dalu ar ôl tynnu’r blaendal a ffi weinyddu o £5.
  5. Efallai y bydd yn bosibl bwcio ar gyfer cyfnod gwahanol gan ddibynnu ar argaeledd. Argymhellir y dylech gymryd yswiriant gwyliau i dalu am unrhyw golled bosibl yn y cyswllt hwn.
  6. Dim ond y nifer o westeion yr ydych wedi’i ddatgan a all aros yn y llety, hyd at dri deg ar y mwyaf. Ni thelir ad-daliad os bydd llai na’r nifer a ddatganwyd yn troi i fyny.
  7. Mae trydan wedi’i gynnwys yn y pris.
  8. Ni chaniateir ysmygu yn y llety hwn.
  9. Ni chaniateir anifeiliaid anwes.
  10. Darperir dillad gwely, ond bydd angen i chi ddod â’ch tyweli eich hun.
  11. Gallwn ddarparu cotiau a chadeiriau uchel os rhoddwch wybod i ni.
  12. Yr amser cyrraedd yw ar ôl 2.30 p.m. ar y Dydd Sadwrn cyntaf.
  13. Gofynnir i westeion adael erbyn 10.00 a.m. ar y diwrnod gadael.
  14. Mae bwciadau at bwrpas gwyliau’n unig ac ni allant arwain at denantiaeth.
  15. Ni all y gwyliau hyn cael eu prynu a’u gwerthu am bris uwch.
  16. Ni chaniateir defnydd masnachol o’r eiddo heb gael caniatâd ysgrifenedig.
  17. Caiff yr ystafelloedd eu harchwilio, fan hwyraf, o fewn diwrnod ar ôl i chi adael. Os darganfyddir unrhyw ddifrod, rhoddir gwybod i chi a gofynnir i chi dalu am unrhyw waith atgyweirio sydd ei angen.
  18. Os bydd Coleg Harlech yn gorfod canslo’ch bwciad, rhoddir cymaint o rybudd â phosibl i chi ac ad-delir unrhyw arian a dalwyd.

Ni roddir unrhyw allweddi i chi hyd nes bod y taliad llawn wedi’i dderbyn.

Share on facebook
Follow HarlechHolidays on Twitter