Plas Amherst Llety Gwp Mawr

plasamherst-exterior-thumb3 plasamherst-lounge-thumb plasamherst-typicalbedroom-

CAG Coleg Harlech sy’n rheoli’r eiddo hwn a chaiff ei ddefnyddio’n aml gan grwpiau at ddibenion addysgol, felly llety syml a di-ffwdan ydyw. Mae’r pris rhesymol iawn yn adlewyrchu safon sylfaenol ond glân y llety.

Mae lle i 30 o westeion mewn 23 ystafell wely (16 sengl a 7 gyda dau wely; mae gan bob un fasn ymolchi a cheir toiled yn 14 ohonynt). Cafodd yr eiddo ei adnewyddu’n ddiweddar ac mae digonedd o gawodydd a thoiledau’n agos at yr ystafelloedd gwely.

Mae yma ddwy lolfa gysurus, gyda theledu a chwaraeydd DVD yn un ohonynt. Darperir prydau i’r gwesteion yn ôl y gofyn yn yr ardal giniawa lle mae seddi i hyd at 30 o bobl ar y tro.

Mae’r eiddo’n cynnwys cegin fasnachol y gall gwesteion ei defnyddio ar gyfer hunanarlwyo neu, os yw’n well gennych, gallwn ddarparu rhai neu’r cyfan o’ch prydau bwyd. Byddwch cystal â chysylltu â ni i drafod eich gofynion arlwyo.

Nid oes llawer o le parcio ar y safle ond gellir parcio ym maes parcio’r coleg gerllaw. Mae lifft ar gael ac mae rhai ystafelloedd gwely da ar y llawr daear sy’n addas ar gyfer gwesteion sy’n cael trafferth symud.

Mae Plas Amherst yn ddelfrydol ar gyfer grwpiau mawr a theuluoedd. Wedi’i leoli ym Mharc Cenedlaethol Eryri a chyda golygfeydd dros Fae Tremadog o rai o’r ystafelloedd gwely, dyma leoliad perffaith i unrhyw un sy’n dymuno mwynhau’r awyr agored. Mae gan Harlech filltiroedd o draeth tywodlyd a chysgodol lle gellir ymdrochi’n ddiogel. Mae Clwb Golff Royal St David’s a Chastell Harlech gerllaw.

I Logi Plas Amherst

I logi Plas Amherst, sicrhewch ei bod ar gael yn gyntaf ac yna llwythwch ffurflen bwcio a dychwelwch hi gyda blaendal o £60 (yn daladwy i CAG(G) Coleg Harlech) i sicrhau’r eiddo. Rhaid talu’r gweddill 6 wythnos cyn cyrraedd.

Dylech anfon y ffurflen bwcio at:

Valmai Owen
Coleg Harlech
Harlech
Gwynedd
LL46 2PU

Harlech YouTube

Share on facebook
Follow HarlechHolidays on Twitter