Pethau i’w Gwneud Yn Ymyl Harlech, Snowdonia

  walking in harlech snowdonia  cycling in harlech snowdonia  riding in harlech snowdonia fishing-sea-harlech tree-top-adventure181x121 

Mae amrywiaeth eang o bethau i’w gwneud yn yr ardal. Dyma rai awgrymiadau ar gyfer gweithgareddau sydd o fewn taith awr yn y car o Harlech.

Byddwch cystal â nodi na ellir ein dal ni’n gyfrifol am y gweithgareddau a restrir. Wrth drefnu gweithgareddau fe’ch cynghorir i wneud eich ymchwil eich hun i brofiad a chymwysterau’r darparwyr. Cynhyrchir canllaw ardderchog (wedi’i ysgrifennu gan Anne Vowles) gan Eryri Bywiol / Snowdonia Active sy’n rhoi cyngor ar sut i drefnu gweithgareddau grŵp a theuluol.

Traethau Mae digonedd o draethau lleol sy’n cynnig ymdrochi diogel, archwilio pyllau glan môr, pysgota, barcuta ac ati.

Canwio a Chaiacio Môr Mae afonydd, llynnoedd a’r môr yn cynnig amrywiaeth eang o brofiadau ar bob lefel.

Ewch ar fordaith foethus ar y "Shearwater" o farina Pwllheli a darganfyddwch arfordir Penrhyn Llŷn.

Dringo Mae Eryri’n cynnig peth o’r dringo gorau a mwyaf amrywiol yn y byd.

Beicio a Beicio Mynydd Mwynhewch lwybrau heb draffig, llwybrau coedwig a llwybrau beicio mynydd.

Digwyddiadau

Pysgota Mwynhewch amrywiaeth eang iawn o leoliadau pysgota a daliwch lawer math o bysgod gan gynnwys eogiaid, sewin, draenogiaid dŵr croyw, rhufellod a phenhwyaid. Cofiwch y bydd yn rhaid i chi brynu’r trwyddedau priodol a byddai’n syniad da i chi gysylltu â’r cymdeithasau pysgota lleol i gael rhagor o wybodaeth.

Yr Hwylfan, Caernarfon – canolfan chwarae dan do fwyaf Gogledd Cymru.

Golff Mwynhewch gêm gyffrous o golff yn Eryri lle mae golygfeydd o fynyddoedd, yr arfordir a’r môr yn harddu rhai o’n meysydd golff gorau yn Aberdyfi, Abersoch, Harlech, Nefyn, Porthmadog a Phwllheli.

Barcuta a Pharagleidio Mae daeareg Eryri yn ei gwneud yn lleoliad o’r radd flaenaf ar gyfer y chwaraeon hyn.

Parc Glasfryn – ar gyfer cartio, gyrru beiciau cwad a bowlio deg. 

Parc Coedwig Greenwood, Caernarfon – hwyl, antur a reidiau; yn ddelfrydol ar gyfer teuluoedd ifanc.

Gallwch ddod o hyd i Anturiaethau Uchel i’r teulu cyfan ar ffurf sialensiau awyrol a gwifrau sip yn:

Ropeworks ym Mhwllheli
Rhaffau ac Ysgolion / Ropes and Ladders yn Llanberis a
Treetop Adventures ym Metws-y-coed 

Marchogaeth Mae nifer o ganolfannau marchogaeth yn Eryri a all drefnu teithiau marchogaeth lleol.

Saethu Peli Paent, ym Mhwllheli.

Taith Bleser mewn awyren dros Eryri – o faes awyr Caernarfon.

Rheilffordd Eryri Teithiwch mewn trên i ben yr Wyddfa. 

Plymio Dan y Dŵr Mae llawer iawn o safleoedd plymio morol yn Eryri, Penrhyn Llŷn a Môn.

Nofio Mae pwll nofio yn Harlech.

Triathlon Harlech Digwyddiad blynyddol poblogaidd yw hwn a gynhelir ym mis Mai.

Cerdded O gerdded i ben yr Wyddfa i fynd am dro mwy hamddenol yn harddwch cefn gwlad.

Rafftio Dŵr Gwyn, Y Bala

Hefyd ewch i’n tudalen Lleoedd i Fynd.

Self catering accommodation for groups and families in Harlech, Snowdonia

Share on facebook
Follow HarlechHolidays on Twitter

Weather Forecast