Parc Cenedlaethol Eryri

snowdonia4 climbing snowdonia fishing-sea
cycling-coed-y-brenin3 walking-group2 riding-harlech

 

Yn y mynyddoedd a elwir yn Eryri, neu “le’r eryrod”, ceir Yr Wyddfa, mynydd uchaf Cymru. Er na welwyd eryrod yn Eryri ers dros 300 mlynedd bellach, mae hebogiaid tramor wedi ymgartrefu yma.

Ym Mharc Cenedlaethol Eryri mae 100 o lynnoedd, 90 o gopaon, 37 milltir o arfordir a thraethau bendigedig, gweundiroedd a gwlyptiroedd, a’r mynydd uchaf yng Nghymru.

Ewch i wefan Parc Cenedlaethol Eryri i gael gwybodaeth am y canlynol: 

Teithiau cerdded yn yr ardal, o gerdded i ben yr Wyddfa i fynd am dro mwy hamddenol yn harddwch cefn gwlad.

Beicio Mwynhewch lwybrau heb draffig, llwybrau coedwig a llwybrau beicio mynydd.

Pysgota Mwynhewch amrywiaeth eang iawn o leoliadau pysgota a daliwch lawer math o bysgod gan gynnwys eogiaid, sewin, draenogiaid dŵr croyw, rhufellod a phenhwyaid. Cofiwch y bydd yn rhaid i chi brynu’r trwyddedau priodol a byddai’n syniad da i chi gysylltu â’r cymdeithasau pysgota lleol i gael rhagor o wybodaeth.

Marchogaeth Mae nifer o ganolfannau marchogaeth yn Eryri a all drefnu teithiau marchogaeth lleol.

Teithiwch i ben y mynydd uchaf ar Reilffordd yr Wyddfa (Lein Bach yr Wyddfa).

Am ragor o syniadau ewch i

Lleoedd i’w Gweld yn Eryri

Pethau i’w Gwneud yn Eryri

 

 

Self catering accommodation for families and groups in Harlech, Snowdonia

 

Share on facebook
Follow HarlechHolidays on Twitter

Weather Forecast