Lleoedd i Fwyta
Y Branwen – Ffordd Newydd, Harlech 01766 780477
Mae gyferbyn â’r cwrs golff, ac mae’n cynnig prydau tafarn a thŷ bwyta.
Mae’r tŷ bwyta coeth yn cynnig ciniawa penigamp gyda phrydau blasus, gwreiddiol ac amrywiol, wedi’u paratoi gyda chynhwysion ffres.
Castle Cottage – Oddi ar y Stryd Fawr 01766 780 479
Buddugwr cyffredinol Gwobr Bwyta Allan yng Nghymru Gwir Flas Cymru 2008/9.
Siop De Cemlyn – Stryd Fawr 01766 780425
Ar agor o Ddydd Mercher i Ddydd Sadwrn.
Siop De Safon Uchel arobryn yw Cemlyn a gydnabyddir gan y Cyngor Te ac aelodau’r Urdd Te. Enillodd ‘Wobrau Rhagoriaeth’ bob blwyddyn o 2003 hyd 2009.
Harlech Tandoori – Stryd Fawr 01766 781306
Caiff sbeisys eu dewis a’u melino’n ofalus, a’u cymysgu gan ddefnyddio dulliau traddodiadol i greu prydau Indiaidd a Bangladeshi gwych.
Y Bwtri Bach – Stryd Fawr 01766 780373
Delicatessen bach hyfryd – mae’n lle hynod ddymunol i eistedd a chael tamaid o ginio. Mae detholiad o gawsiau, cigoedd a bara lleol ar gael.
Self catering accommodation for families and groups in Harlech, Snowdonia
