Clwb Golff Royal St David's, Harlech

01766 780361 www.royalstdavids.co.uk
Bwciwch ar-lein i gael gostyngiad yn y ffi chwarae ar gyfer y rhan fwyaf o amserau ti.
Mae ymwelwyr yn sicr o gael croeso cynnes yn Royal St. David's, maes golff pencampwriaethol traddodiadol gwych sy’n 42ain yn rhestr Golf World o 100 maes golff gorau Prydain Fawr ac Iwerddon. Wedi’i osod mewn lleoliad arfordirol hardd mae’n gorwedd yng nghysgod adeiladwaith mawreddog Castell Harlech.
Mae gan Royal St David's, sy’n un o brif feysydd golff Cymru, enw da yn genedlaethol a rhyngwladol. Mae’n herio galluoedd y golffiwr mewn llecyn ysblennydd yn y rhan fwyaf prydferth o’r wlad, ac mae’r castell bygythiol yn tra-arglwyddiaethu dros y cyfan.
Wedi’i sefydlu ym 1894, mae Clwb Golff Royal St David's yn gartref i un o’r meysydd golff traddodiadol gorau yn y byd. Mae’r ffyrdd teg tonnog a’r griniau cywir cyflym yn gwneud hwn yn faes golff pencampwriaethol o’r radd flaenaf.
Yn 2009 cynhaliodd y Clwb Bencampwriaeth Merched Ewrop S4C, a enillwyd gan Karen Stupples o Loegr, a Phencampwriaeth Amatur Agored Merched Prydain, a enillwyd gan Azahara Munoz o Sbaen. Yn 2010 cynhaliodd Bencampwriaeth Chwarae Trawiadau Agored Cymru a Phencampwriaeth Genedlaethol Cymru y PGA (Cwpan Ryder Cymru).
Yn 2011 bydd yn cynnal Pencampwriaethau Rhyngwladol Cartref y Bechgyn ac, yn 2013, y gystadleuaeth am Dlws Jacques Leglise a noddir gan R&A, rhwng bechgyn Prydain Fawr ac Iwerddon a bechgyn Cyfandir Ewrop.
Mae’n 73ain yn rhestr y Golf Digest o’r 100 maes gorau y tu allan i’r UDA, yn 42ain yn rhestr Golf World o’r 100 maes gorau ym Mhrydain Fawr ac Iwerddon, ac yn 45ain yn rhestr Golf Monthly o 100 maes gorau’r DU ac Iwerddon.
Ffioedd
Byddwch cystal â chadarnhau’r ffioedd isod gyda’r clwb golff cyn dod.
Haf – Dydd Llun i Ddydd Gwener (Dydd Sadwrn, Dydd Sul a Gwyliau Banc)
£50 am un rownd (£60 am un rownd)
£65 y dydd (£75 y dydd)
£30 ar ôl 15:00 yp (£36 ar ôl 15:00 yp)
