Crown Lodge Llety Grwpiau

crown lodge accommodation harlech crownlodge-entrance-thumb crownlodge-bedroom-thumb2

CAG Coleg Harlech sy’n berchen ar ac yn rheoli’r eiddo hwn a chaiff ei ddefnyddio’n aml gan grwpiau at ddibenion addysgol, felly llety syml a diffwdan ydyw. Mae’r pris rhesymol iawn yn adlewyrchu safon sylfaenol ond glân y llety sydd wedi cael ei raddio’n ddwy seren gan Croeso Cymru.

Mae lle yn Crown Lodge ar gyfer hyd at 19 o westeion mewn 8 ystafell gyda dau wely a 3 ystafell wely sengl, y mae pob un ohonynt yn en-suite. Mae 3 ystafell wely ar y llawr daear ac mae’r rhain yn ddelfrydol ar gyfer gwesteion gydag anableddau (er y dylid nodi bod Harlech yn ardal fryniog a bod yr adeilad wedi’i leoli ym mhen lôn serth).

Mae’r gegin yn cynnwys popty, oergell, rhewgell, popty microdon, peiriant golchi, peiriant sychu dillad a pheiriant golchi llestri. Mae yma lolfa helaeth sy’n cynnwys teledu, chwaraeydd DVD a recordydd fideo.

Mae Crown Lodge yn ddelfrydol ar gyfer grwpiau mawr. Mae’r adeilad wedi’i leoli ym Mharc Cenedlaethol Eryri a cheir golygfeydd dros Fae Tremadog o rai o’r ystafelloedd gwely, ac mae’n lleoliad perffaith i unrhyw un sy’n dymuno mwynhau’r awyr agored. Mae gan Harlech filltiroedd o draeth tywodlyd a chysgodol lle gellir ymdrochi’n ddiogel. Mae Clwb Golff Royal St David’s a Chastell Harlech gerllaw.

I Logi Crown Lodge

 I logi Crown Lodge, sicrhewch ei bod ar gael yn gyntaf ac yna llwythwch ffurflen bwcio a dychwelwch hi gyda blaendal o £60 (yn daladwy i CAG(G) Coleg Harlech) i sicrhau’r eiddo. Rhaid talu’r gweddill 6 wythnos cyn cyrraedd.

Dylech anfon y ffurflen bwcio at:

Valmai Owen
Coleg Harlech
Harlech
Gwynedd
LL46 2PU

Harlech YouTube

Share on facebook
Follow HarlechHolidays on Twitter