Llety Grwp Harlech, Eryri

harlech-beach   
harlech-aerial   
golf
Traeth Harlech  Castell Harlech Clwb Golff Royal St Davids 
crownlodge-entrance-thumb   
plasamherst-lounge-thumb   
ywern-bedroom-harlech181x136
Crown Lodge  Plas Amherst  Y Wern 

Mae tref Harlech wedi’i lleoli ym Mharc Cenedlaethol Eryri. Mae rhywbeth yma i bawb, beth bynnag yw eich oedran a’ch diddordebau, yn enwedig os ydych chi’n hoffi gweithgareddau awyr agored.

Mae Coleg Harlech yn rheoli tri adeilad yn Harlech sydd ar gael ar gyfer gwyliau drwy gydol y flwyddyn.

Mae Clwb Golff Royal St David’s a Chastell Harlech gerllaw ac mae gan bob adeilad olygfeydd o’r traeth bendigedig ac ar draws Bae Tremadog i Benrhyn Llŷn.

Ein nod yw cynnig llety rhesymol ei bris yn yr ardal hardd hon.  Mae’r tri adeilad ar wahân i brif safle’r coleg ond gallwch logi cyfleusterau megis yr ystafelloedd TG, y stiwdio gelf, y stiwdio gerdd ac ystafelloedd cyfarfod os byddant o ddefnydd i chi tra byddwch chi yma.

Plas Amherst – adeilad mawr ar gyfer hyd at 30 o westeion, prisiau o £850 i £3,650

visitwales-2star-logoCrown Lodge – llety 2* ar gyfer hyd at 19 o westeion, prisiau o £525 i £2,300

Y Wern – bwthyn 2* mawr ar gyfer hyd at 8 o westeion, prisiau o £260 i £1,050

Byddwch cystal â chysylltu â ni os hoffech gael rhagor o wybodaeth.

I logi llety, sicrhewch ei fod ar gael yn gyntaf ac yna llwythwch ffurflen bwcio i lawr a dychwelwch hi gyda blaendal o £60 i Valmai Owen, Coleg Harlech, Harlech, Gwynedd, LL46 2PU.

 

 

 

 

 

Harlech YouTube

Share on facebook
Follow HarlechHolidays on Twitter